Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 19 Ionawr 2022
Amser:
09.30 -
12.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12578
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Mike Hedges AS Sam Rowlands AS (yn lle Peter Fox AS) Rhianon Passmore AS |
Tystion: |
Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru Alex Chapman, Sefydliad Economeg Newydd Victoria Winckler, Sefydliad Bevan Sara Jones, Consortiwm Manwerthu Cymru Suzy Davies, Cynghrair Twristiaeth Cymru Ben Cottam, Ffederasiwn Busnesau Bach Leighton Jenkins, CBI Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Owen Holzinger (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Owain Davies (Ymchwilydd) |
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, mae’r Cadeirydd wedi penderfynu bod y cyhoedd wedi eu gwahardd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Caiff y cyfarfod hwn ei ddarlledu'n fyw ar www.senedd.tv
Rhag-gyfarfod preifat - Anffurfiol (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod rhithwir y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Peter Fox AS. Dirprwyodd Sam Rowlands AS ar ei ran.
2 Papur(au) i'w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 PTN 1 - Llythyr gan y Pwyllgor Busnes at Gadeiryddion Pwyllgorau - Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau - 7 Ionawr 2022
2.2 PTN 2 - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Tystiolaeth ysgrifenedig gan y cerddwyr Cymru - Ionawr 2022
3 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 5
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 gan y tystion a ganlyn: Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru; ac Alex Chapman, Uwch Ymchwilydd, New Economics Foundation.
Egwyl (10.15-10.25)
4 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 6
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23.
Egwyl (11.10-11.20)
5 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Sesiwn dystiolaeth 7
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23 gan y tystion a ganlyn: Sara Jones, Pennaeth Consortiwm Manwerthu Cymru; Suzy Davies, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru; Ben Cottam, Pennaeth Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach (FSB Cymru); a Leighton Jenkins, Pennaeth Polisi – Cymru, CBI Cymru.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
6.1 Derbyniwyd y cynnig.
7 Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2022-23: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.